1. Bydded i Dduw godi, ac i'w elynion wasgaru,ac i'r rhai sy'n ei gasáu ffoi o'i flaen.
2. Fel y chwelir mwg, chwâl hwy;fel cwyr yn toddi o flaen tân,bydded i'r drygionus ddarfod o flaen Duw.
3. Ond y mae'r cyfiawn yn llawenhau;y maent yn gorfoleddu gerbron Duwac yn ymhyfrydu mewn llawenydd.
4. Canwch i Dduw, molwch ei enw,paratowch ffordd i'r un sy'n marchogaeth trwy'r anialdir;yr ARGLWYDD yw ei enw, gorfoleddwch o'i flaen.
5. Tad yr amddifaid ac amddiffynnydd y gweddwonyw Duw yn ei drigfan sanctaidd.
6. Mae Duw yn gosod yr unig mewn cartref,ac yn arwain allan garcharorion mewn llawenydd;ond y mae'r gwrthryfelwyr yn byw mewn diffeithwch.
7. O Dduw, pan aethost ti allan o flaen dy bobl,a gorymdeithio ar draws yr anialwch,Sela
8. crynodd y ddaear a glawiodd y nefoeddo flaen Duw, Duw Sinai,o flaen Duw, Duw Israel.
9. Tywelltaist ddigonedd o law, O Dduw,ac adfer dy etifeddiaeth pan oedd ar ddiffygio;
10. cafodd dy braidd le i fyw ynddi,ac yn dy ddaioni darperaist i'r anghenus, O Dduw.
11. Y mae'r Arglwydd yn datgan y gair,ac y mae llu mawr yn cyhoeddi'r newydd da
12. fod brenhinoedd y byddinoedd yn ffoi ar frys;y mae'r merched gartref yn rhannu ysbail—
13. er eu bod wedi aros ymysg y corlannau—y mae adenydd colomen wedi eu gorchuddio ag arian,a'i hesgyll yn aur melyn.
14. Pan wasgarodd yr Hollalluog frenhinoedd yno,yr oedd yn eira ar Fynydd Salmon.