Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 66:11-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Dygaist ni i'r rhwyd,rhoist rwymau amdanom,

12. gadewaist i ddynion farchogaeth dros ein pennau,aethom trwy dân a dyfroedd;ond dygaist ni allan i ryddid.

13. Dof i'th deml â phoethoffrymau,talaf i ti fy addunedau,

14. a wneuthum â'm gwefusauac a lefarodd fy ngenau pan oedd yn gyfyng arnaf.

15. Aberthaf i ti basgedigion yn boethoffrymau,a hefyd hyrddod yn arogldarth;darparaf ychen a bychod geifr.Sela

16. Dewch i wrando, chwi oll sy'n ofni Duw,ac adroddaf yr hyn a wnaeth Duw i mi.

17. Gwaeddais arno â'm genau,ac yr oedd moliant ar fy nhafod.

18. Pe bawn wedi coleddu drygioni yn fy nghalon,ni fuasai'r Arglwydd wedi gwrando;

19. ond yn wir, gwrandawodd Duw,a rhoes sylw i lef fy ngweddi.

20. Bendigedig fyddo Duwam na throdd fy ngweddi oddi wrtho,na'i ffyddlondeb oddi wrthyf.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 66