Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 63:4-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Fel hyn y byddaf yn dy fendithio trwy fy oes,ac yn codi fy nwylo mewn gweddi yn dy enw.

5. Caf fy nigoni, fel pe ar fêr a braster,a moliannaf di â gwefusau llawen.

6. Pan gofiaf di ar fy ngwely,a myfyrio amdanat yng ngwyliadwriaethau'r nos—

7. fel y buost yn gymorth imi,ac fel yr arhosais yng nghysgod dy adenydd—

8. bydd fy enaid yn glynu wrthyt;a bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal.

9. Ond am y rhai sy'n ceisio difetha fy mywyd,byddant hwy'n suddo i ddyfnderau'r ddaear;

10. fe'u tynghedir i fin y cleddyf,a byddant yn ysglyfaeth i lwynogod.

11. Ond bydd y brenin yn llawenhau yn Nuw,a bydd pawb sy'n tyngu iddo ef yn gorfoleddu,oherwydd caeir safnau'r rhai celwyddog.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 63