Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 63:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O Dduw, ti yw fy Nuw, fe'th geisiaf di;y mae fy enaid yn sychedu amdanat,a'm cnawd yn dihoeni o'th eisiau,fel tir sych a diffaith heb ddŵr.

2. Fel hyn y syllais arnat yn y cysegr,a gweld dy rym a'th ogoniant.

3. Y mae dy ffyddlondeb yn well na bywyd;am hynny bydd fy ngwefusau'n dy foliannu.

4. Fel hyn y byddaf yn dy fendithio trwy fy oes,ac yn codi fy nwylo mewn gweddi yn dy enw.

5. Caf fy nigoni, fel pe ar fêr a braster,a moliannaf di â gwefusau llawen.

6. Pan gofiaf di ar fy ngwely,a myfyrio amdanat yng ngwyliadwriaethau'r nos—

7. fel y buost yn gymorth imi,ac fel yr arhosais yng nghysgod dy adenydd—

8. bydd fy enaid yn glynu wrthyt;a bydd dy ddeheulaw yn fy nghynnal.

9. Ond am y rhai sy'n ceisio difetha fy mywyd,byddant hwy'n suddo i ddyfnderau'r ddaear;

10. fe'u tynghedir i fin y cleddyf,a byddant yn ysglyfaeth i lwynogod.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 63