Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 62:5-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

5. Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid;oddi wrtho ef y daw fy ngobaith.

6. Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth,fy amddiffynfa, fel na'm symudir.

7. Ar Dduw y dibynna fy ngwaredigaeth a'm hanrhydedd;fy nghraig gadarn, fy noddfa yw Duw.

8. Ymddiriedwch ynddo bob amser, O bobl,tywalltwch allan eich calon iddo;Duw yw ein noddfa.Sela

9. Yn wir, nid yw gwrêng ond anadl,nid yw bonedd ond rhith;pan roddir hwy mewn clorian, codant—y maent i gyd yn ysgafnach nag anadl.

10. Peidiwch ag ymddiried mewn gormes,na gobeithio'n ofer mewn lladrad;er i gyfoeth amlhau,peidiwch â gosod eich bryd arno.

11. Unwaith y llefarodd Duw,dwywaith y clywais hyn:I Dduw y perthyn nerth,

12. i ti, O Arglwydd, y perthyn ffyddlondeb;yr wyt yn talu i bob un yn ôl ei weithredoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 62