Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 62:2-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth,fy amddiffynfa, fel na'm symudir.

3. Am ba hyd yr ymosodwch ar ddyn,bob un ohonoch, a'i falurio,fel mur wedi gogwyddoa chlawdd ar syrthio?

4. Yn wir, cynlluniant i'w dynnu i lawr o'i safle,ac y maent yn ymhyfrydu mewn twyll;y maent yn bendithio â'u genau,ond ynddynt eu hunain yn melltithio.Sela

5. Yn wir, yn Nuw yr ymdawela fy enaid;oddi wrtho ef y daw fy ngobaith.

6. Ef yn wir yw fy nghraig a'm gwaredigaeth,fy amddiffynfa, fel na'm symudir.

7. Ar Dduw y dibynna fy ngwaredigaeth a'm hanrhydedd;fy nghraig gadarn, fy noddfa yw Duw.

8. Ymddiriedwch ynddo bob amser, O bobl,tywalltwch allan eich calon iddo;Duw yw ein noddfa.Sela

9. Yn wir, nid yw gwrêng ond anadl,nid yw bonedd ond rhith;pan roddir hwy mewn clorian, codant—y maent i gyd yn ysgafnach nag anadl.

10. Peidiwch ag ymddiried mewn gormes,na gobeithio'n ofer mewn lladrad;er i gyfoeth amlhau,peidiwch â gosod eich bryd arno.

11. Unwaith y llefarodd Duw,dwywaith y clywais hyn:I Dduw y perthyn nerth,

12. i ti, O Arglwydd, y perthyn ffyddlondeb;yr wyt yn talu i bob un yn ôl ei weithredoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 62