Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 58:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Chwi gedyrn, a ydych mewn difri'n dedfrydu'n gyfiawn?A ydych yn barnu pobl yn deg?

2. Na! Yr ydych â'ch calonnau'n dyfeisio drygioni,ac â'ch dwylo'n gwasgaru trais dros y ddaear.

3. Y mae'r drygionus yn wrthryfelgar o'r groth,a'r rhai sy'n llefaru celwydd yn cyfeiliorni o'r bru.

4. Y mae eu gwenwyn fel gwenwyn sarff,fel asb fyddar sy'n cau ei chlustiau,

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 58