Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 58:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Chwi gedyrn, a ydych mewn difri'n dedfrydu'n gyfiawn?A ydych yn barnu pobl yn deg?

2. Na! Yr ydych â'ch calonnau'n dyfeisio drygioni,ac â'ch dwylo'n gwasgaru trais dros y ddaear.

3. Y mae'r drygionus yn wrthryfelgar o'r groth,a'r rhai sy'n llefaru celwydd yn cyfeiliorni o'r bru.

4. Y mae eu gwenwyn fel gwenwyn sarff,fel asb fyddar sy'n cau ei chlustiau,

5. a heb wrando ar sain y swynwrsy'n taenu ei hudoliaeth ryfedd.

6. O Dduw, dryllia'r dannedd yn eu genau,diwreiddia gilddannedd y llewod, O ARGLWYDD.

7. Bydded iddynt ddiflannu fel dŵr a mynd ymaith,a chrino fel gwellt a sethrir;

8. byddant fel erthyl sy'n diflannu,ac fel marw-anedig na wêl olau dydd.

9. Cyn iddynt wybod bydd yn eu diwreiddio;yn ei ddig bydd yn eu sgubo ymaith fel chwyn.

10. Bydd y cyfiawn yn llawenhau am iddo weld dialedd,ac yn golchi ei draed yng ngwaed y drygionus.

11. A dywed pobl, “Yn ddios y mae gwobr i'r cyfiawn;oes, y mae Duw sy'n gwneud barn ar y ddaear.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 58