1. Bydd drugarog wrthyf, O Dduw, bydd drugarog wrthyf,oherwydd ynot ti yr wyf yn llochesu;yng nghysgod dy adenydd y mae fy llochesnes i'r stormydd fynd heibio.
2. Galwaf ar y Duw Goruchaf,ar y Duw sy'n gweithredu drosof.
3. Bydd yn anfon o'r nefoedd i'm gwaredu;bydd yn cywilyddio'r rhai sy'n gwasgu arnaf;Selabydd Duw yn anfon ei gariad a'i wirionedd.
4. Yr wyf yn byw yng nghanol llewod,rhai sy'n traflyncu pobl,a'u dannedd yn bicellau a saethau,a'u tafod yn gleddyf miniog.
5. Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.
6. Y maent wedi gosod rhwyd i'm traed,ac wedi darostwng fy mywyd;y maent wedi cloddio pwll ar fy nghyfer,ond hwy eu hunain fydd yn syrthio iddo.Sela
7. Y mae fy nghalon yn gadarn, O Dduw,y mae fy nghalon yn gadarn;fe ganaf a rhoi mawl.
8. Deffro, fy enaid,deffro di, nabl a thelyn.Fe ddeffroaf ar doriad gwawr.
9. Rhof ddiolch i ti, O Arglwydd, ymysg y bobloedd,a chanmolaf di ymysg y cenhedloedd,
10. oherwydd y mae dy gariad yn ymestyn hyd y nefoedd,a'th wirionedd hyd y cymylau.
11. Ymddyrchafa'n uwch na'r nefoedd, O Dduw,a bydded dy ogoniant dros yr holl ddaear.