17. Yr wyt yn casáu disgyblaethac yn bwrw fy ngeiriau o'th ôl.
18. Os gweli leidr, fe ei i'w ganlyn,a bwrw dy goel gyda godinebwyr.
19. Y mae dy enau'n ymollwng i ddrygioni,a'th dafod yn nyddu twyll.
20. Yr wyt yn parhau i dystio yn erbyn dy frawd,ac yn enllibio mab dy fam.
21. Gwnaethost y pethau hyn, bûm innau ddistaw;tybiaist dithau fy mod fel ti dy hun,ond ceryddaf di, a dwyn achos yn dy erbyn.
22. “Ystyriwch hyn, chwi sy'n anghofio Duw,rhag imi eich darnio heb neb i arbed.
23. Y sawl sy'n cyflwyno offrymau diolch sy'n fy anrhydeddu,ac i'r sawl sy'n dilyn fy ffordd y dangosaf iachawdwriaeth Duw.”