1. Duw y duwiau, yr ARGLWYDD, a lefarodd;galwodd y ddaearo godiad haul hyd ei fachlud.
2. O Seion, berffaith ei phrydferthwch,y llewyrcha Duw.
3. Fe ddaw ein Duw, ac ni fydd ddistaw;bydd tân yn ysu o'i flaen,a thymestl fawr o'i gwmpas.
4. Y mae'n galw ar y nefoedd uchod,ac ar y ddaear, er mwyn barnu ei bobl:
5. “Casglwch ataf fy ffyddloniaid,a wnaeth gyfamod â mi trwy aberth.”
6. Bydd y nefoedd yn cyhoeddi ei gyfiawnder,oherwydd Duw ei hun sydd farnwr.Sela
7. “Gwrandewch, fy mhobl, a llefaraf;dygaf dystiolaeth yn dy erbyn, O Israel;myfi yw Duw, dy Dduw di.
8. Ni cheryddaf di am dy aberthau,oherwydd y mae dy boethoffrymau'n wastad ger fy mron.
9. Ni chymeraf fustach o'th dŷ,na bychod geifr o'th gorlannau;
10. oherwydd eiddof fi holl fwystfilod y goedwig,a'r gwartheg ar fil o fryniau.
11. Yr wyf yn adnabod holl adar yr awyr,ac eiddof fi holl greaduriaid y maes.