Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 46:1-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Y mae Duw yn noddfa ac yn nerth i ni,yn gymorth parod mewn cyfyngder.

2. Felly, nid ofnwn er i'r ddaear symudac i'r mynyddoedd ddisgyn i ganol y môr,

3. er i'r dyfroedd ruo a therfysguac i'r mynyddoedd ysgwyd gan eu hymchwydd.Sela

4. Y mae afon a'i ffrydiau'n llawenhau dinas Duw,preswylfa sanctaidd y Goruchaf.

5. Y mae Duw yn ei chanol, nid ysgogir hi;cynorthwya Duw hi ar doriad dydd.

6. Y mae'r cenhedloedd yn terfysgu a'r teyrnasoedd yn gwegian;pan gwyd ef ei lais, todda'r ddaear.

7. Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni,Duw Jacob yn gaer i ni.Sela

8. Dewch i weld gweithredoedd yr ARGLWYDD,fel y dygodd ddifrod ar y ddaear;

9. gwna i ryfeloedd beidio trwy'r holl ddaear,dryllia'r bwa, tyr y waywffon,a llosgi'r darian â thân.

10. Ymlonyddwch, a deallwch mai myfi sydd Dduw,yn ddyrchafedig ymysg y cenhedloedd,yn ddyrchafedig ar y ddaear.

11. Y mae ARGLWYDD y Lluoedd gyda ni,Duw Jacob yn gaer i ni.Sela

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 46