Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 43:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Cymer fy mhlaid, O Dduw,ac amddiffyn fy achosrhag pobl annheyrngar;gwared fi rhag dynion twyllodrus ac anghyfiawn,

2. oherwydd ti, O Dduw, yw fy amddiffyn.Pam y gwrthodaist fi?Pam y rhodiaf mewn galar,wedi fy ngorthrymu gan y gelyn?

3. Anfon dy oleuni a'th wirionedd,bydded iddynt fy arwain,bydded iddynt fy nwyn i'th fynydd sanctaiddac i'th drigfan.

4. Yna dof at allor Duw,at Dduw fy llawenydd;llawenychaf a'th foliannu â'r delyn,O Dduw, fy Nuw.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 43