Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 42:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog,felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw.

2. Y mae fy enaid yn sychedu am Dduw, am y Duw byw;pa bryd y dof ac ymddangos ger ei fron?

3. Bu fy nagrau'n fwyd imi ddydd a nos,pan ofynnent imi drwy'r dydd, “Ple mae dy Dduw?”

4. Tywalltaf fy enaid mewn gofid wrth gofio hyn—fel yr awn gyda thyrfa'r mawrion i dŷ Dduwyng nghanol banllefau a moliant, torf yn cadw gŵyl.

5. Mor ddarostyngedig wyt, fy enaid,ac mor gythryblus o'm mewn!Disgwyliaf wrth Dduw; oherwydd eto moliannaf ef,fy Ngwaredydd a'm Duw.

6. Y mae fy enaid yn ddarostyngedig ynof;am hynny, meddyliaf amdanat tio dir yr Iorddonen a Hermonac o Fynydd Misar.

7. Geilw dyfnder ar ddyfnderyn sŵn dy raeadrau;y mae dy fôr a'th donnauwedi llifo trosof.

8. Liw dydd y mae'r ARGLWYDD yn gorchymyn ei ffyddlondeb,a liw nos y mae ei gân gyda mi,gweddi ar Dduw fy mywyd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 42