12. Oherwydd y mae drygau dirifediwedi cau amdanaf;y mae fy nghamweddau wedi fy nalfel na allaf weld;y maent yn fwy niferus na gwallt fy mhen,ac y mae fy nghalon yn suddo.
13. Bydd fodlon i'm gwaredu, ARGLWYDD;O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo.
14. Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,ar y rhai sy'n ceisio difa fy mywyd;bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imigael eu troi yn eu holau mewn dryswch.
15. Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, “Aha! Aha!” arnafgael eu syfrdanu gan eu gwaradwydd.
16. Ond bydded i bawb sy'n dy geisio dilawenhau a gorfoleddu ynot;bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaethddweud yn wastad, “Mawr yw'r ARGLWYDD.”
17. Un tlawd ac anghenus wyf fi,ond y mae'r Arglwydd yn meddwl amdanaf.Ti yw fy nghymorth a'm gwaredydd;fy Nuw, paid ag oedi!