Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 40:1-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Bûm yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD,ac yna plygodd ataf a gwrando fy nghri.

2. Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog,allan o'r mwd a'r baw;gosododd fy nhraed ar graig,a gwneud fy nghamau'n ddiogel.

3. Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd,cân o foliant i'n Duw;bydd llawer, pan welant hyn, yn ofniac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.

4. Gwyn ei fyd y sawlsy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD,ac nad yw'n troi at y beilchion,nac at y rhai sy'n dilyn twyll.

5. Mor niferus, O ARGLWYDD, fy Nuw,yw'r rhyfeddodau a wnaethost,a'th fwriadau ar ein cyfer;nid oes tebyg i ti!Dymunwn eu cyhoeddi a'u hadrodd,ond maent yn rhy niferus i'w rhifo.

6. Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm—rhoddaist imi glustiau agored—ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod.

7. Felly dywedais, “Dyma fi'n dod;y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf

8. fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw,a bod dy gyfraith yn fy nghalon.”

9. Bûm yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynulleidfa fawr;nid wyf wedi atal fy ngwefusau,fel y gwyddost, O ARGLWYDD.

10. Ni chuddiais dy gyfiawnder yn fy nghalon,ond dywedais am dy gadernid a'th waredigaeth;ni chelais dy gariad a'th wirioneddrhag y gynulleidfa fawr.

11. Paid tithau, ARGLWYDD, ag ataldy dosturi oddi wrthyf;bydded dy gariad a'th wirioneddyn fy nghadw bob amser.

12. Oherwydd y mae drygau dirifediwedi cau amdanaf;y mae fy nghamweddau wedi fy nalfel na allaf weld;y maent yn fwy niferus na gwallt fy mhen,ac y mae fy nghalon yn suddo.

13. Bydd fodlon i'm gwaredu, ARGLWYDD;O ARGLWYDD, brysia i'm cynorthwyo.

14. Doed cywilydd, a gwaradwydd hefyd,ar y rhai sy'n ceisio difa fy mywyd;bydded i'r rhai sy'n cael pleser o wneud drwg imigael eu troi yn eu holau mewn dryswch.

15. Bydded i'r rhai sy'n gweiddi, “Aha! Aha!” arnafgael eu syfrdanu gan eu gwaradwydd.

16. Ond bydded i bawb sy'n dy geisio dilawenhau a gorfoleddu ynot;bydded i'r rhai sy'n caru dy iachawdwriaethddweud yn wastad, “Mawr yw'r ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 40