Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 40:1-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Bûm yn disgwyl a disgwyl wrth yr ARGLWYDD,ac yna plygodd ataf a gwrando fy nghri.

2. Cododd fi i fyny o'r pwll lleidiog,allan o'r mwd a'r baw;gosododd fy nhraed ar graig,a gwneud fy nghamau'n ddiogel.

3. Rhoddodd yn fy ngenau gân newydd,cân o foliant i'n Duw;bydd llawer, pan welant hyn, yn ofniac yn ymddiried yn yr ARGLWYDD.

4. Gwyn ei fyd y sawlsy'n rhoi ei ymddiriedaeth yn yr ARGLWYDD,ac nad yw'n troi at y beilchion,nac at y rhai sy'n dilyn twyll.

5. Mor niferus, O ARGLWYDD, fy Nuw,yw'r rhyfeddodau a wnaethost,a'th fwriadau ar ein cyfer;nid oes tebyg i ti!Dymunwn eu cyhoeddi a'u hadrodd,ond maent yn rhy niferus i'w rhifo.

6. Nid wyt yn dymuno aberth ac offrwm—rhoddaist imi glustiau agored—ac nid wyt yn gofyn poethoffrwm ac aberth dros bechod.

7. Felly dywedais, “Dyma fi'n dod;y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf

8. fy mod yn hoffi gwneud ewyllys fy Nuw,a bod dy gyfraith yn fy nghalon.”

9. Bûm yn cyhoeddi cyfiawnder yn y gynulleidfa fawr;nid wyf wedi atal fy ngwefusau,fel y gwyddost, O ARGLWYDD.

10. Ni chuddiais dy gyfiawnder yn fy nghalon,ond dywedais am dy gadernid a'th waredigaeth;ni chelais dy gariad a'th wirioneddrhag y gynulleidfa fawr.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 40