Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 4:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ateb fi pan alwaf, O Dduw fy nghyfiawnder!Pan oeddwn mewn cyfyngder, gwaredaist fi;bydd drugarog wrthyf, a gwrando fy ngweddi.

2. Bobl, am ba hyd y bydd fy ngogoniant yn warth,ac y byddwch yn caru gwagedd ac yn ceisio celwydd?Sela

3. Deallwch fod yr ARGLWYDD wedi neilltuo'r ffyddlon iddo'i hun;y mae'r ARGLWYDD yn gwrando pan alwaf arno.

4. Er i chwi gynddeiriogi, peidiwch â phechu;er i chwi ymson ar eich gwely, byddwch ddistaw.Sela

5. Offrymwch aberthau cywir,ac ymddiriedwch yn yr ARGLWYDD.

6. Y mae llawer yn dweud, “Pwy a ddengys i ni ddaioni?”Cyfoded llewyrch dy wyneb arnom, ARGLWYDD.

7. Rhoddaist fwy o lawenydd yn fy nghalonna'r eiddo hwy pan oedd llawer o ŷd a gwin.

8. Yn awr gorweddaf mewn heddwch a chysgu,oherwydd ti yn unig, ARGLWYDD, sy'n peri imi fyw'n ddiogel.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 4