Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 38:13-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Ond yr wyf fi fel un byddar, heb fod yn clywed,ac fel mudan, heb fod yn agor ei enau.

14. Bûm fel un heb fod yn clywed,a heb ddadl o'i enau.

15. Ond amdanat ti, O ARGLWYDD, y disgwyliais;ti sydd i ateb, O Arglwydd, fy Nuw.

16. Oherwydd dywedais, “Na fydded llawenydd o'm plegidi'r rhai sy'n ymffrostio pan lithra fy nhroed.”

17. Yn wir, yr wyf ar fedr syrthio,ac y mae fy mhoen gyda mi bob amser.

18. Yr wyf yn cyffesu fy nghamwedd,ac yn pryderu am fy mhechod.

19. Cryf yw'r rhai sy'n elynion imi heb achos,a llawer yw'r rhai sy'n fy nghasáu ar gam,

20. yn talu imi ddrwg am ddaac yn fy ngwrthwynebu am fy mod yn dilyn daioni.

21. Paid â'm gadael, O ARGLWYDD;paid â mynd yn bell oddi wrthyf, O fy Nuw.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 38