Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 37:34-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

34. Disgwyl wrth yr ARGLWYDD a glŷn wrth ei ffordd,ac fe'th ddyrchafa i etifeddu'r tir,a chei weld y drygionus yn cael eu torri ymaith.

35. Gwelais y drygionus yn ddidostur,yn taflu fel blaguryn iraidd;

36. ond pan euthum heibio, nid oedd dim ohono;er imi chwilio amdano, nid oedd i'w gael.

37. Sylwa ar y difeius, ac edrych ar yr uniawn;oherwydd y mae disgynyddion gan yr heddychlon.

38. Difethir y gwrthryfelwyr i gyd,a dinistrir disgynyddion y drygionus.

39. Ond daw gwaredigaeth y cyfiawn oddi wrth yr ARGLWYDD;ef yw eu hamddiffyn yn amser adfyd.

40. Bydd yr ARGLWYDD yn eu cynorthwyo ac yn eu harbed;bydd yn eu harbed rhag y drygionus ac yn eu hachub,am iddynt lochesu ynddo.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 37