Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 35:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Ymryson, O ARGLWYDD, yn erbyn y rhai sy'n ymryson â mi,ymladd yn erbyn y rhai sy'n ymladd â mi.

2. Cydia mewn tarian a bwcled,a chyfod i'm cynorthwyo.

3. Tyn allan y waywffon a'r bicellyn erbyn y rhai sy'n fy erlid;dywed wrthyf, “Myfi yw dy waredigaeth.”

4. Doed cywilydd a gwarthar y rhai sy'n ceisio fy mywyd;bydded i'r rhai sy'n darparu drwg i midroi yn eu holau mewn arswyd.

5. Byddant fel us o flaen gwynt,ac angel yr ARGLWYDD ar eu holau.

6. Bydded eu ffordd yn dywyll a llithrig,ac angel yr ARGLWYDD yn eu hymlid.

7. Oherwydd heb achos y maent wedi gosod rhwyd i mi,ac wedi cloddio pwll ar fy nghyfer.

8. Doed distryw yn ddiarwybod arnynt,dalier hwy yn y rhwyd a osodwyd ganddynt,a bydded iddynt hwy eu hunain syrthio i'w distryw.

9. Ond llawenhaf fi yn yr ARGLWYDD,a gorfoleddu yn ei waredigaeth.

10. Bydd fy holl esgyrn yn gweiddi,“Pwy, ARGLWYDD, sydd fel tydi,yn gwaredu'r tlawd rhag un cryfach nag ef,y tlawd a'r anghenus rhag un sy'n ei ysbeilio?”

11. Fe gyfyd tystion maleisusi'm holi am bethau nas gwn.

12. Talant imi ddrwg am dda,a gwneud ymgais am fy mywyd.

13. A minnau, pan oeddent hwy yn glaf,oeddwn yn gwisgo sachliain,yn ymddarostwng mewn ympryd,yn plygu pen mewn gweddi,

14. fel pe dros gyfaill neu frawd imi;yn mynd o amgylch fel un yn galaru am ei fam,wedi fy narostwng ac mewn galar.

15. Ond pan gwympais i, yr oeddent hwy yn llawenac yn tyrru at ei gilydd i'm herbyn—poenydwyr nad oeddwn yn eu hadnabodyn fy enllibio heb arbed.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 35