Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 3:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. ARGLWYDD, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr!Y mae llawer yn codi yn f'erbyn,

2. a llawer yn dweud amdanaf,“Ni chaiff waredigaeth yn Nuw.”Sela

3. Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn darian i mi,yn ogoniant i mi ac yn fy nyrchafu.

4. Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD,ac etyb fi o'i fynydd sanctaidd.Sela

5. Yr wyf yn gorwedd ac yn cysgu,ac yna'n deffro am fod yr ARGLWYDD yn fy nghynnal.

6. Nid ofnwn pe bai myrddiwn o boblyn ymosod arnaf o bob tu.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 3