Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 3:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. ARGLWYDD, mor lluosog yw fy ngwrthwynebwyr!Y mae llawer yn codi yn f'erbyn,

2. a llawer yn dweud amdanaf,“Ni chaiff waredigaeth yn Nuw.”Sela

3. Ond yr wyt ti, ARGLWYDD, yn darian i mi,yn ogoniant i mi ac yn fy nyrchafu.

4. Gwaeddaf yn uchel ar yr ARGLWYDD,ac etyb fi o'i fynydd sanctaidd.Sela

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 3