Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 26:4-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Ni fûm yn eistedd gyda rhai diwerth,nac yn cyfeillachu gyda rhagrithwyr.

5. Yr wyf yn casáu cwmni'r rhai drwg,ac nid wyf yn eistedd gyda'r drygionus.

6. Golchaf fy nwylo am fy mod yn ddieuog,ac amgylchaf dy allor, O ARGLWYDD,

7. a chanu'n uchel mewn diolchgarwchac adrodd dy holl ryfeddodau.

8. O ARGLWYDD, yr wyf yn caru'r tŷ lle'r wyt yn trigo,y man lle mae dy ogoniant yn aros.

9. Paid â'm rhoi gyda phechaduriaid,na'm bywyd gyda rhai gwaedlyd,

10. rhai sydd â chamwri ar eu dwyloa'u deheulaw'n llawn o lwgrwobrwyon.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 26