1. Eiddo'r ARGLWYDD yw'r ddaear a'i llawnder,y byd a'r rhai sy'n byw ynddo;
2. oherwydd ef a'i sylfaenodd ar y moroedda'i sefydlu ar yr afonydd.
3. Pwy a esgyn i fynydd yr ARGLWYDDa phwy a saif yn ei le sanctaidd?
4. Y glân ei ddwylo a'r pur o galon,yr un sydd heb osod ei feddwl ar dwylla heb dyngu'n gelwyddog.
5. Fe dderbyn fendith gan yr ARGLWYDDa chyfiawnder gan Dduw ei iachawdwriaeth.