1. O ARGLWYDD, fe lawenycha'r brenin yn dy nerth;mor fawr yw ei orfoledd yn dy waredigaeth!
2. Rhoddaist iddo ddymuniad ei galon,ac ni wrthodaist iddo ddeisyfiad ei wefusau.Sela
3. Daethost i'w gyfarfod â bendithion daionus,a rhoi coron o aur coeth ar ei ben.
4. Am fywyd y gofynnodd iti, ac fe'i rhoddaist iddo—hir ddyddiau byth bythoedd.
5. Mawr yw ei ogoniant oherwydd dy waredigaeth;yr wyt yn rhoi iddo ysblander ac anrhydedd,
6. yr wyt yn rhoi bendithion iddo dros bythac yn ei lawenhau â gorfoledd dy bresenoldeb.
7. Y mae'r brenin yn ymddiried yn yr ARGLWYDD,ac oherwydd ffyddlondeb y Goruchaf nis symudir.
8. Caiff dy law afael ar dy holl elynion,a'th ddeheulaw ar y rhai sy'n dy gasáu.
9. Byddi'n eu gwneud fel ffwrnais danllyd pan ymddangosi;bydd yr ARGLWYDD yn eu difa yn ei lid,a'r tân yn eu hysu.
10. Byddi'n dinistrio'u hepil oddi ar y ddaear,a'u plant o blith y ddynolryw.
11. Yr oeddent yn bwriadu drwg yn d'erbyn,ac yn cynllunio niwed heb lwyddo;
12. oherwydd byddi di'n gwneud iddynt ffoi,ac yn anelu at eu hwynebau â'th fwa.
13. Dyrchafa, ARGLWYDD, yn dy nerth!Cawn ganu a'th ganmol am dy gryfder!