Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 18:30-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

30. Y Duw hwn, y mae'n berffaith ei ffordd,ac y mae gair yr ARGLWYDD wedi ei brofi'n bur;y mae ef yn darian i bawb sy'n llochesu ynddo.

31. Pwy sydd Dduw ond yr ARGLWYDD?A phwy sydd graig ond ein Duw ni,

32. y Duw sy'n fy ngwregysu â nerth,ac yn gwneud fy ffordd yn ddifeius?

33. Gwna fy nhraed fel rhai ewig,a'm gosod yn gadarn ar y mynyddoedd.

34. Y mae'n dysgu i'm dwylo ryfela,i'm breichiau dynnu bwa pres.

35. Rhoist imi dy darian i'm gwaredu,a'm cynnal â'th ddeheulaw,a'm gwneud yn fawr trwy dy ofal.

36. Rhoist imi le llydan i'm camau,ac ni lithrodd fy nhraed.

37. Yr wyf yn ymlid fy ngelynion ac yn eu dal;ni ddychwelaf nes eu difetha.

38. Yr wyf yn eu trywanu fel na allant godi,ac y maent yn syrthio o dan fy nhraed.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 18