15. Daeth gwaelodion y môr i'r golwg,a dinoethwyd sylfeini'r byd,oherwydd dy gerydd di, O ARGLWYDD,a chwythiad anadl dy ffroenau.
16. Ymestynnodd o'r uchelder a'm cymryd,tynnodd fi allan o'r dyfroedd cryfion.
17. Gwaredodd fi rhag fy ngelyn nerthol,rhag y rhai sy'n fy nghasáu pan oeddent yn gryfach na mi.
18. Daethant i'm herbyn yn nydd fy argyfwng,ond bu'r ARGLWYDD yn gynhaliaeth i mi.
19. Dygodd fi allan i le agored,a'm gwaredu am ei fod yn fy hoffi.
20. Gwnaeth yr ARGLWYDD â mi yn ôl fy nghyfiawnder,a thalodd i mi yn ôl glendid fy nwylo.
21. Oherwydd cedwais ffyrdd yr ARGLWYDD,heb droi oddi wrth fy Nuw at ddrygioni;
22. yr oedd ei holl gyfreithiau o'm blaen,ac ni fwriais ei ddeddfau o'r neilltu.
23. Yr oeddwn yn ddi-fai yn ei olwg,a chedwais fy hun rhag troseddu.
24. Talodd yr ARGLWYDD i mi yn ôl fy nghyfiawnder,ac yn ôl glendid fy nwylo yn ei olwg.
25. Yr wyt yn ffyddlon i'r ffyddlon,yn ddifeius i'r difeius,
26. ac yn bur i'r rhai pur;ond i'r cyfeiliornus yr wyt yn wyrgam.
27. Oherwydd yr wyt yn gwaredu'r rhai gostyngedig,ac yn darostwng y beilchion.
28. Ti sy'n goleuo fy llusern, ARGLWYDD;fy Nuw sy'n troi fy nhywyllwch yn ddisglair.