1. Molwch yr ARGLWYDD.Molwch Dduw yn ei gysegr,molwch ef yn ei ffurfafen gadarn.
2. Molwch ef am ei weithredoedd nerthol,molwch ef am ei holl fawredd.
3. Molwch ef â sain utgorn,molwch ef â nabl a thelyn.
4. Molwch ef â thympan a dawns,molwch ef â llinynnau a phibau.
5. Molwch ef â sŵn symbalau,molwch ef â symbalau uchel.
6. Bydded i bopeth byw foliannu'r ARGLWYDD.Molwch yr ARGLWYDD.