Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 148:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Molwch yr ARGLWYDD.Molwch yr ARGLWYDD o'r nefoedd,molwch ef yn yr uchelderau.

2. Molwch ef, ei holl angylion;molwch ef, ei holl luoedd.

3. Molwch ef, haul a lleuad;molwch ef, yr holl sêr disglair.

4. Molwch ef, nef y nefoedd,a'r dyfroedd sydd uwch y nefoedd.

5. Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD,oherwydd ef a orchmynnodd, a chrewyd hwy;

6. fe'u gwnaeth yn sicr fyth bythoedd;rhoes iddynt ddeddf nas torrir.

7. Molwch yr ARGLWYDD o'r ddaear,chwi ddreigiau a'r holl ddyfnderau,

8. tân a chenllysg, eira a mwg,y gwynt stormus sy'n ufudd i'w air;

9. y mynyddoedd a'r holl fryniau,y coed ffrwythau a'r holl gedrwydd;

10. anifeiliaid gwyllt a'r holl rai dof,ymlusgiaid ac adar hedegog;

11. brenhinoedd y ddaear a'r holl bobloedd,tywysogion a holl farnwyr y ddaear;

12. gwŷr ifainc a gwyryfon,hynafgwyr a llanciau hefyd.

13. Bydded iddynt foli enw'r ARGLWYDD,oherwydd ei enw ef yn unig sydd ddyrchafedig,ac y mae ei ogoniant ef uwchlaw daear a nefoedd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 148