2. Y mae'r ARGLWYDD yn adeiladu Jerwsalem,y mae'n casglu rhai gwasgaredig Israel.
3. Y mae'n iacháu'r rhai drylliedig o galon,ac yn rhwymo eu doluriau.
4. Y mae'n pennu nifer y sêr,ac yn rhoi enwau arnynt i gyd.
5. Mawr yw ein Harglwydd ni, a chryf o nerth;y mae ei ddoethineb yn ddifesur.
6. Y mae'r ARGLWYDD yn codi'r rhai gostyngedig,ond yn bwrw'r drygionus i'r llawr.