Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 146:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. Molaf yr ARGLWYDD tra byddaf byw,canaf fawl i'm Duw tra byddaf.

3. Peidiwch ag ymddiried mewn tywysogion,mewn unrhyw un na all waredu;

4. bydd ei anadl yn darfod ac yntau'n dychwelyd i'r ddaear,a'r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau.

5. Gwyn ei fyd y sawl y mae Duw Jacob yn ei gynorthwyo,ac y mae ei obaith yn yr ARGLWYDD ei Dduw,

6. creawdwr nefoedd a daear a'r môr,a'r cyfan sydd ynddynt.Y mae ef yn cadw'n ffyddlon hyd byth,

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 146