Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 146:1-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Molwch yr ARGLWYDD.Fy enaid, mola'r ARGLWYDD.

2. Molaf yr ARGLWYDD tra byddaf byw,canaf fawl i'm Duw tra byddaf.

3. Peidiwch ag ymddiried mewn tywysogion,mewn unrhyw un na all waredu;

4. bydd ei anadl yn darfod ac yntau'n dychwelyd i'r ddaear,a'r diwrnod hwnnw derfydd am ei gynlluniau.

5. Gwyn ei fyd y sawl y mae Duw Jacob yn ei gynorthwyo,ac y mae ei obaith yn yr ARGLWYDD ei Dduw,

6. creawdwr nefoedd a daear a'r môr,a'r cyfan sydd ynddynt.Y mae ef yn cadw'n ffyddlon hyd byth,

7. ac yn gwneud barn â'r gorthrymedig;y mae'n rhoi bara i'r newynog.Y mae'r ARGLWYDD yn rhyddhau carcharorion;

8. y mae'r ARGLWYDD yn rhoi golwg i'r deillion,ac yn codi pawb sydd wedi eu darostwng;y mae'r ARGLWYDD yn caru'r rhai cyfiawn.

9. Y mae'r ARGLWYDD yn gwylio dros y dieithriaid,ac yn cynnal y weddw a'r amddifad;y mae'n difetha ffordd y drygionus.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 146