Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 144:9-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

9. Canaf gân newydd i ti, O Dduw,canaf gyda'r offeryn dectant i ti,

10. ti sy'n rhoi gwaredigaeth i frenhinoedd,ac yn achub Dafydd ei was.

11. Achub fi oddi wrth y cleddyf creulon;gwared fi o law estroniaid,sy'n dweud celwydd â'u genau,a'u deheulaw'n llawn ffalster.

12. Bydded ein meibion fel planhigionyn tyfu'n gryf yn eu hieuenctid,a'n merched fel pileri cerfiedigmewn adeiladwaith palas.

13. Bydded ein hysguboriau yn llawno luniaeth o bob math;bydded ein defaid yn filoeddac yn fyrddiynau yn ein meysydd;

14. bydded ein gwartheg yn drymion,heb anap nac erthyliad;ac na fydded gwaedd ar ein strydoedd.

15. Gwyn eu byd y bobl sydd fel hyn.Gwyn eu byd y bobl y mae'r ARGLWYDD yn Dduw iddynt.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 144