Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 140:3-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Y mae eu tafod yn finiog fel sarff,ac y mae gwenwyn gwiber dan eu gwefusau.Sela

4. O ARGLWYDD, arbed fi rhag dwylo'r drygionus;cadw fi rhag rhai sy'n gorthrymu,rhai sy'n cynllunio i faglu fy nhraed.

5. Bu rhai trahaus yn cuddio magl i mi,a rhai dinistriol yn taenu rhwyd,ac yn gosod maglau ar ymyl y ffordd.Sela

6. Dywedais wrth yr ARGLWYDD, “Fy Nuw wyt ti”;gwrando, O ARGLWYDD, ar lef fy ngweddi.

7. O ARGLWYDD Dduw, fy iachawdwriaeth gadarn,cuddiaist fy mhen yn nydd brwydr.

8. O ARGLWYDD, paid â rhoi eu dymuniad i'r drygionus,paid â llwyddo eu bwriad.Sela

9. Y mae rhai o'm hamgylch yn codi eu pen,ond bydded i ddrygioni eu gwefusau eu llethu.

10. Bydded i farwor tanllyd syrthio arnynt;bwrier hwy i ffosydd dyfnion heb allu codi.

11. Na fydded lle i'r enllibus yn y wlad;bydded i ddrygioni ymlid y gorthrymwr yn ddiarbed.

12. Gwn y gwna'r ARGLWYDD gyfiawnder â'r truan,ac y rhydd farn i'r anghenus.

13. Yn sicr bydd y cyfiawn yn clodfori dy enw;bydd yr uniawn yn byw yn dy bresenoldeb.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 140