Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 136:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Diolchwch i'r ARGLWYDD am mai da yw,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

2. Diolchwch i Dduw y duwiau,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

3. Diolchwch i Arglwydd yr arglwyddi,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

4. Y mae'n gwneud rhyfeddodau mawrion ei hunan,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

5. gwnaeth y nefoedd mewn doethineb,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

6. taenodd y ddaear dros y dyfroedd,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

7. gwnaeth oleuadau mawrion,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

8. yr haul i reoli'r dydd,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

9. y lleuad a'r sêr i reoli'r nos,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

10. Trawodd rai cyntafanedig yr Aifft,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

11. a daeth ag Israel allan o'u canol,oherwydd mae ei gariad hyd byth;

12. â llaw gref ac â braich estynedig,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

13. Holltodd y Môr Coch yn ddau,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

14. a dygodd Israel trwy ei ganol,oherwydd mae ei gariad hyd byth,

15. ond taflodd Pharo a'i lu i'r Môr Coch,oherwydd mae ei gariad hyd byth.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 136