Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 135:3-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Molwch yr ARGLWYDD, oherwydd da yw ef;canwch i'w enw, oherwydd y mae'n ddymunol.

4. Dewisodd yr ARGLWYDD Jacob iddo'i hunan,ac Israel yn drysor arbennig iddo.

5. Oherwydd fe wn i fod yr ARGLWYDD yn fawr,a bod ein Harglwydd ni yn rhagori ar yr holl dduwiau.

6. Fe wna'r ARGLWYDD beth bynnag a ddymuna,yn y nefoedd ac ar y ddaear,yn y moroedd a'r holl ddyfnderau.

7. Pâr i gymylau godi o derfynau'r ddaear;fe wna fellt ar gyfer y glaw,a daw gwynt allan o'i ystordai.

8. Fe drawodd rai cyntafanedig yr Aifft,yn ddyn ac anifail;

9. anfonodd arwyddion a rhybuddion trwy ganol yr Aifft,yn erbyn Pharo a'i holl ddeiliaid.

10. Fe drawodd genhedloedd mawrion,a lladd brenhinoedd cryfion—

11. Sihon brenin yr Amoriaid,Og brenin Basan,a holl dywysogion Canaan;

12. rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth,yn etifeddiaeth i'w bobl Israel.

13. Y mae dy enw, O ARGLWYDD, am byth,a'th enwogrwydd o genhedlaeth i genhedlaeth.

14. Oherwydd fe rydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl,a bydd yn trugarhau wrth ei weision.

15. Arian ac aur yw delwau'r cenhedloedd,ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.

16. Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad,a llygaid nad ydynt yn gweld;

17. y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed,ac nid oes anadl yn eu ffroenau.

18. Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt,ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.

19. Dylwyth Israel, bendithiwch yr ARGLWYDD;Dylwyth Aaron, bendithiwch yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 135