Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 135:2-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

2. sy'n sefyll yn nhŷ'r ARGLWYDD,yng nghynteddoedd ein Duw.

3. Molwch yr ARGLWYDD, oherwydd da yw ef;canwch i'w enw, oherwydd y mae'n ddymunol.

4. Dewisodd yr ARGLWYDD Jacob iddo'i hunan,ac Israel yn drysor arbennig iddo.

5. Oherwydd fe wn i fod yr ARGLWYDD yn fawr,a bod ein Harglwydd ni yn rhagori ar yr holl dduwiau.

6. Fe wna'r ARGLWYDD beth bynnag a ddymuna,yn y nefoedd ac ar y ddaear,yn y moroedd a'r holl ddyfnderau.

7. Pâr i gymylau godi o derfynau'r ddaear;fe wna fellt ar gyfer y glaw,a daw gwynt allan o'i ystordai.

8. Fe drawodd rai cyntafanedig yr Aifft,yn ddyn ac anifail;

9. anfonodd arwyddion a rhybuddion trwy ganol yr Aifft,yn erbyn Pharo a'i holl ddeiliaid.

10. Fe drawodd genhedloedd mawrion,a lladd brenhinoedd cryfion—

11. Sihon brenin yr Amoriaid,Og brenin Basan,a holl dywysogion Canaan;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 135