Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 135:14-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

14. Oherwydd fe rydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl,a bydd yn trugarhau wrth ei weision.

15. Arian ac aur yw delwau'r cenhedloedd,ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.

16. Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad,a llygaid nad ydynt yn gweld;

17. y mae ganddynt glustiau nad ydynt yn clywed,ac nid oes anadl yn eu ffroenau.

18. Y mae eu gwneuthurwyr yn mynd yn debyg iddynt,ac felly hefyd bob un sy'n ymddiried ynddynt.

19. Dylwyth Israel, bendithiwch yr ARGLWYDD;Dylwyth Aaron, bendithiwch yr ARGLWYDD.

20. Dylwyth Lefi, bendithiwch yr ARGLWYDD;pob un sy'n ofni'r ARGLWYDD, bendithiwch yr ARGLWYDD.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 135