Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 135:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

11. Sihon brenin yr Amoriaid,Og brenin Basan,a holl dywysogion Canaan;

12. rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth,yn etifeddiaeth i'w bobl Israel.

13. Y mae dy enw, O ARGLWYDD, am byth,a'th enwogrwydd o genhedlaeth i genhedlaeth.

14. Oherwydd fe rydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl,a bydd yn trugarhau wrth ei weision.

15. Arian ac aur yw delwau'r cenhedloedd,ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.

16. Y mae ganddynt enau nad ydynt yn siarad,a llygaid nad ydynt yn gweld;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 135