Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 135:1-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Molwch yr ARGLWYDD.Molwch enw'r ARGLWYDD,molwch ef, chwi weision yr ARGLWYDD,

2. sy'n sefyll yn nhÅ·'r ARGLWYDD,yng nghynteddoedd ein Duw.

3. Molwch yr ARGLWYDD, oherwydd da yw ef;canwch i'w enw, oherwydd y mae'n ddymunol.

4. Dewisodd yr ARGLWYDD Jacob iddo'i hunan,ac Israel yn drysor arbennig iddo.

5. Oherwydd fe wn i fod yr ARGLWYDD yn fawr,a bod ein Harglwydd ni yn rhagori ar yr holl dduwiau.

6. Fe wna'r ARGLWYDD beth bynnag a ddymuna,yn y nefoedd ac ar y ddaear,yn y moroedd a'r holl ddyfnderau.

7. Pâr i gymylau godi o derfynau'r ddaear;fe wna fellt ar gyfer y glaw,a daw gwynt allan o'i ystordai.

8. Fe drawodd rai cyntafanedig yr Aifft,yn ddyn ac anifail;

9. anfonodd arwyddion a rhybuddion trwy ganol yr Aifft,yn erbyn Pharo a'i holl ddeiliaid.

10. Fe drawodd genhedloedd mawrion,a lladd brenhinoedd cryfion—

11. Sihon brenin yr Amoriaid,Og brenin Basan,a holl dywysogion Canaan;

12. rhoddodd eu tir yn etifeddiaeth,yn etifeddiaeth i'w bobl Israel.

13. Y mae dy enw, O ARGLWYDD, am byth,a'th enwogrwydd o genhedlaeth i genhedlaeth.

14. Oherwydd fe rydd yr ARGLWYDD gyfiawnder i'w bobl,a bydd yn trugarhau wrth ei weision.

15. Arian ac aur yw delwau'r cenhedloedd,ac wedi eu gwneud â dwylo dynol.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 135