Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 132:13-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

13. Oherwydd dewisodd yr ARGLWYDD Seion,a'i chwennych yn drigfan iddo:

14. “Dyma fy ngorffwysfa am byth;yma y trigaf am imi ei dewis.

15. Bendithiaf hi â digonedd o ymborth,a digonaf ei thlodion â bara.

16. Gwisgaf ei hoffeiriaid ag iachawdwriaeth,a bydd ei ffyddloniaid yn gorfoleddu.

17. Yno y gwnaf i gorn dyfu i Ddafydd;darperais lamp i'm heneiniog.

18. Gwisgaf ei elynion â chywilydd,ond ar ei ben ef y bydd coron ddisglair.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 132