Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 132:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O ARGLWYDD, cofia am Ddafyddyn ei holl dreialon,

2. fel y bu iddo dyngu i'r ARGLWYDDac addunedu i Un Cadarn Jacob,

3. “Nid af i mewn i'r babell y trigaf ynddi,nac esgyn i'r gwely y gorffwysaf arno;

4. ni roddaf gwsg i'm llygaidna hun i'm hamrannau,

5. nes imi gael lle i'r ARGLWYDDa thrigfan i Un Cadarn Jacob.”

6. Wele, clywsom amdani yn Effrata,a chawsom hi ym meysydd y coed.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 132