Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 130:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. O'r dyfnderau y gwaeddais arnat, O ARGLWYDD.

2. Arglwydd, clyw fy llef;bydded dy glustiau'n agoredi lef fy ngweddi.

3. Os wyt ti, ARGLWYDD, yn cadw cyfrif o gamweddau,pwy, O Arglwydd, a all sefyll?

4. Ond y mae gyda thi faddeuant,fel y cei dy ofni.

5. Disgwyliaf wrth yr ARGLWYDD; y mae fy enaid yn disgwyl,a gobeithiaf yn ei air;

6. y mae fy enaid yn disgwyl wrth yr Arglwyddyn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore,yn fwy nag y mae'r gwylwyr am y bore.

7. O Israel, gobeithia yn yr ARGLWYDD,oherwydd gyda'r ARGLWYDD y mae ffyddlondeb,a chydag ef y mae gwaredigaeth helaeth.

8. Ef sydd yn gwaredu Israeloddi wrth ei holl gamweddau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 130