Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 129:1-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

1. Lawer gwaith o'm hieuenctid buont yn ymosod arnaf—dyweded Israel yn awr—

2. lawer gwaith o'm hieuenctid buont yn ymosod arnaf,ond heb erioed fod yn drech na mi.

3. Y mae'r arddwyr wedi aredig fy nghefngan dynnu cwysau hirion.

4. Ond y mae'r ARGLWYDD yn gyfiawn;torrodd raffau'r rhai drygionus.

5. Bydded i'r holl rai sy'n casáu Seiongywilyddio a chilio'n ôl;

6. byddant fel glaswellt pen to,sy'n crino cyn iddo flaguro—

7. ni leinw byth law'r medelwr,na gwneud coflaid i'r rhwymwr,

8. ac ni ddywed neb wrth fynd heibio,“Bendith yr ARGLWYDD arnoch!Bendithiwn chwi yn enw'r ARGLWYDD.”

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 129