Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 121:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Nid yw ceidwad Israelyn cysgu nac yn huno.

5. Yr ARGLWYDD yw dy geidwad,yr ARGLWYDD yw dy gysgod ar dy ddeheulaw;

6. ni fydd yr haul yn dy daro yn y dydd,na'r lleuad yn y nos.

7. Bydd yr ARGLWYDD yn dy gadw rhag pob drwg,bydd yn cadw dy einioes.

8. Bydd yr ARGLWYDD yn gwylio dy fynd a'th ddodyn awr a hyd byth.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 121