1. Gwaeddais ar yr ARGLWYDD yn fy nghyfyngder,ac atebodd fi.
2. “O ARGLWYDD, gwared fi rhag genau twyllodrus,a rhag tafod enllibus.”
3. Beth a roddir i ti,a beth yn ychwaneg a wneir, O dafod enllibus?
4. Saethau llymion rhyfelwr,a marwor eirias!
5. Gwae fi fy mod yn ymdeithio yn Mesech,ac yn byw ymysg pebyll Cedar.
6. Yn rhy hir y bûm yn bywgyda'r rhai sy'n casáu heddwch.
7. Yr wyf fi am heddwch,ond pan soniaf am hynny,y maent hwy am ryfel.