Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 12:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

3. Bydded i'r ARGLWYDD dorri ymaith bob gwefus wenieithusa'r tafod sy'n siarad yn ymffrostgar,

4. y rhai sy'n dweud, “Yn ein tafod y mae ein nerth;y mae ein gwefusau o'n tu; pwy sy'n feistr arnom?”

5. “Oherwydd anrhaith yr anghenus a chri'r tlawd,codaf yn awr,” meddai'r ARGLWYDD,“rhoddaf iddo'r diogelwch yr hiraetha amdano.”

6. Y mae geiriau'r ARGLWYDD yn eiriau pur:arian wedi ei goethi mewn ffwrnais,aur wedi ei buro seithwaith.

7. Tithau, ARGLWYDD, cadw ni,gwared ni am byth oddi wrth y genhedlaeth hon,

8. am fod y drygionus yn prowla ar bob llaw,a llygredd yn uchaf ymysg pobl.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 12