Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:17-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

17. Bydd dda wrth dy was; gad imi fyw,ac fe gadwaf dy air.

18. Agor fy llygaid imi weldrhyfeddodau dy gyfraith.

19. Ymdeithydd wyf fi ar y ddaear;paid â chuddio dy orchmynion oddi wrthyf.

20. Y mae fy nghalon yn dihoeni o hiraetham dy farnau di bob amser.

21. Fe geryddaist y trahaus, y rhai melltigedigsy'n gwyro oddi wrth dy orchmynion.

22. Tyn ymaith oddi wrthyf eu gwaradwydd a'u sarhad,oherwydd bûm ufudd i'th farnedigaethau.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119