Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 118:4-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCN)

4. Dyweded y rhai sy'n ofni'r ARGLWYDD,“Y mae ei gariad hyd byth.”

5. O'm cyfyngder gwaeddais ar yr ARGLWYDD;atebodd yntau fi a'm rhyddhau.

6. Y mae'r ARGLWYDD o'm tu, nid ofnaf;beth a wna pobl i mi?

7. Y mae'r ARGLWYDD o'm tu i'm cynorthwyo,a gwelaf ddiwedd ar y rhai sy'n fy nghasáu.

8. Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDDnag ymddiried yn neb meidrol.

9. Gwell yw llochesu yn yr ARGLWYDDnag ymddiried mewn tywysogion.

10. Daeth yr holl genhedloedd i'm hamgylchu;yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.

11. Daethant i'm hamgylchu ar bob tu;yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.

12. Daethant i'm hamgylchu fel gwenyn,a llosgi fel tân mewn drain;yn enw'r ARGLWYDD fe'u gyrraf ymaith.

13. Gwthiwyd fi'n galed nes fy mod ar syrthio,ond cynorthwyodd yr ARGLWYDD fi.

14. Yr ARGLWYDD yw fy nerth a'm cân,ac ef yw'r un a'm hachubodd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 118